Canol Caerdydd
Bydd Cynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn mynd gerbron cynghorwyr heddiw ond mae ’na feirniadaeth o’r cynllun a fydd yn caniatáu i dros 45,000 o dai gael eu hadeiladu yn y ddinas.

Os caiff ei basio, bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i arwain a rheoli gwaith datblygu, gan bennu ar geisiadau cynllunio hefyd.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at gynghorwyr Caerdydd yn erfyn arnyn nhw i herio’r cynllun gan ddweud nad oes sylw teilwng i’r Gymraeg yn y cynllun.

Ac mae cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd wedi dweud y byddan nhw’n pleidleisio yn erbyn y cynllun am ‘nad yw’n ystyried’ pa effaith fydd y tai newydd yn eu cael ar wasanaethau eraill y brifddinas.

‘Dileu sylw sarhaus’

Ym mis Awst daeth i’r amlwg bod y cyngor wedi datgan “…nad yw’r defnydd o’r Gymraeg yn rhan o ffabrig cymdeithasol [Caerdydd]”.

Ers i ymgyrchwyr iaith gwyno mae’n ymddangos bod y geiriau yna wedi eu dileu o’r cynllun.

Serch hynny, dywed ymgyrchwyr nad yw’n ddigonol i ddileu sylw sarhaus am y Gymraeg yn unig a bod angen camau gweithredu penodol.

Rhoddwyd statws cryfach i’r Gymraeg ym maes cynllunio yn ddiweddar gan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Cynulliad llynedd.

‘Rhoi sylw mwy teilwng i’r iaith’

Mewn llythyr at gynghorwyr, dywedodd Carl Morris, cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith: Mae Caerdydd yn cael ei drawsnewid o flaen ein llygaid, o’r ‘Central Square’ i’r ‘Tramshed’, i’r degau ar filoedd o dai newydd.

“Mae mabwysiadu atodlen i’r Cynllun Datblygu yn cynnig cyfle i roi sylw mwy teilwng i’r iaith yn ein prifddinas. Gall atodlen gryfhau statws y Gymraeg drwy nifer o ddulliau – o enwau lleoedd Cymraeg i sicrhau bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan o ddatblygiadau tai, a diwallu anghenion lleol am dai.”

‘Ychwanegu atodlen’

Ychwanegodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith: “Rydym ni’n falch o’r sgyrsiau cadarnhaol ni wedi cael gyda’r arweinydd. Mater syml fyddai ychwanegu atodlen i’r cynllun datblygu.

“Yn y ddadl bydd Phil Bale yn medru cadarnhau bod hynny’n digwydd. Dyma gyfle euraidd i Gyngor Caerdydd wneud yn iawn am y sylw gwnaethon nhw fis Awst diwethaf a gweithredu’n gadarnhaol o ran y Gymraeg ym maes cynllunio.”

‘Gwasanaethau ychwanegol’

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae angen sicrhau’r gwasanaethau ychwanegol hyn cyn adeiladu’r cartrefi newydd.

“Ni all cynghorwyr y Democratiaid Rhydd gefnogi Cynllun Datblygu Lleol sy’n gwthio miloedd o dai ar ein dinas heb unrhyw ystyriaeth o’n ffyrdd, ein carthffosydd ac ein hysgolion llawn,” meddai’r cynghorydd dros Landaf a Danescourt, Gareth Aubrey.

Pryderon trigolion lleol

“Mae’r cynllun y mae Llafur (y cyngor) wedi’i gyflwyno yn dangos pa mor allan ohoni y maen nhw gyda phryderon trigolion lleol, ac anghenion y ddinas wrth iddi dyfu a datblygu,” meddai’r Cyng. Gareth Aubrey, sy’n llefarydd Trafnidiaeth a Chynllunio ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd.

“O ystyried bod Llafur naill ai’n amharod neu’n methu datrys y problemau mawr hyn sy’n wynebu ein dinas, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynllun dydd Iau.”

Dywedodd ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ganol Caerdydd fod angen tai ond bod angen ysgolion, parciau, siopau a thrafnidiaeth hefyd i’w cefnogi.

Dywedodd Eluned Parrott AC, y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn diogelu ‘rhai o ardaloedd gwyrdd pwysicaf’ Caerdydd.

‘Darpariaethau’ yn y cynllun

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae’r darpariaethau hyn dros ‘seilwaith’ i gefnogi’r tai newydd wedi cael eu cynnwys yn y cynllun.

“Mae’r cynllun yn golygu bod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflwyno’n raddol a bod seilwaith (gwasanaethau fel ysgolion a ffyrdd) yn cael eu cynnwys,” meddai llefarydd.

“Bydd y cynllun yn rhoi rheolaeth lawn i’r Cyngor dros ddatblygwyr ac yn sicrhau bod darpariaethau’n cael eu gwneud cyn adeiladu unrhyw ddatblygiad.”