Mae cwmni ynni SSE wedi cyhoeddi ei fod am dorri prisiau nwy o 5.3% – dyma’r cyhoeddiad diweddaraf gan un o gwmnïau’r Chwech Mawr i ostwng prisiau.
Dywedodd y grŵp y bydd y gostyngiad yn dod i rym ar 29 Mawrth ac y bydd yn arbed £32 y flwyddyn ar gyfartaledd i gwsmeriaid.
Daw’r cyhoeddiad wythnos yn unig ar ôl i E.ON gyhoeddi y bydd yn gostwng prisiau nwy o 5.1% o 1 Chwefror.
Mae’r gostyngiad wedi cael ei groesawu gan yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd Amber Rudd a ddywedodd ei fod yn “gam yn y cyfeiriad cywir.”
Ond mae Martin Lewis, sylfaenydd Money Saving Expert a www.cheapenergyclub.co.uk wedi beirnadu’r gostyngiad gan ddweud ei fod yn “bitw” ac nad yw’n cynnwys prisiau trydan.