Carfan Cymru yn dathlu cyrraedd Ewro 2016, eu twrnament cyntaf mewn 58 mlynedd (llun: CBDC)
Mae’n debyg bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi sicrhau tocynnau ychwanegol gan UEFA ar gyfer gemau Cymru yn Ewro 2016.

Fe ddatgelodd CBDC yn ddiweddar eu bod wedi cael dros 52,000 o geisiadau ar gyfer cyfanswm o 17,000 o docynnau fydd ar gael i gefnogwyr y crysau cochion yng ngemau grŵp y twrnament.

Ond ar ôl i Weriniaeth Iwerddon fynd at drefnwyr y gystadleuaeth i ofyn am ragor, a llwyddo yn eu cais, mae’r Cymry wedi gwneud yr un peth.

Bydd rhyw 4,000 o docynnau ychwanegol nawr ar gael ar gyfer cefnogwyr Cymru, yn ôl WalesOnline – y rhan fwyaf ohonyn nhw ar gyfer y gemau yn erbyn Slofacia a Rwsia.

Mae UEFA a CBDC yn y broses o ddosbarthu tocynnau ar hyn o bryd, gan roi blaenoriaeth i’r cefnogwyr mwyaf ffyddlon, ac mae disgwyl y bydd pobl yn cael gwybod a fydd eu ceisiadau’n llwyddiannus erbyn diwedd mis Chwefror.

Dim llawer am gêm Lloegr

Bydd Cymru’n herio Slofacia yn eu gêm agoriadol yn y gystadleuaeth ar 11 Mehefin eleni yn Bordeaux.

Fe fydd tîm Chris Coleman wedyn yn herio Lloegr yn Lens ar 16 Mehefin, cyn cwblhau’r grŵp yn erbyn Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin.

Mae’r nifer o docynnau sydd ar gael i gefnogwyr Cymru drwy’r Gymdeithas Bêl-droed yn dibynnu ar faint y stadiwm sydd yn cynnal y gêm.

Ond ychydig iawn o docynnau ychwanegol mae Cymru wedi’i dderbyn ar gyfer yr ornest yn erbyn y Saeson, y fwyaf poblogaidd o’r tair gêm.

Mae nifer y tocynnau ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Slofacia wedi cynyddu o 7,000 i 8,969; rhai gêm Lloegr o 5,000 i 5,202; a gêm Rwsia o 5,000 i 7,002.