Mae un ar ddeg chwaraewr rygbi o Gymru bellach wedi cael eu gwahardd o’r gamp yn dilyn profion cyffuriau positif, yn ôl corff UK Anti Doping.
Dywedodd UKAD bod y diweddaraf o’r rheiny, Shaun Cleary o glwb rygbi Maesteg Harlequins, wedi methu prawf cyffuriau ar ôl i gocên gael ei ganfod yn ei system ar ôl gêm ym mis Awst llynedd.
Cafodd Shaun Cleary waharddiad o rygbi am ddwy flynedd, a hynny deufis yn unig ar ôl i ddau chwaraewr arall o Gymru gael eu gwahardd am gymryd cyffuriau.
Awgrymodd ymchwil diweddar fod cyffuriau o fewn rygbi fod yn broblem ehangach, ac fe ddywedodd Rheolwr Perfformiad Elît Chwaraeon Cymru wrth Golwg360 fod defnydd cymdeithasol o gyffuriau yn sicr yn cyfrannu at hynny.
‘Noson dda’
Dywedodd UKAD bod Shaun Cleary wedi methu prawf cyffuriau yn dilyn gêm gyfeillgar rhwng Maesteg a Pen-y-bont ar 18 Awst 2015, ac y byddai ei waharddiad yn para nes 10 Medi 2017.
Yn ôl Shaun Cleary roedd wedi defnyddio cocên ar ôl bod yn yfed yn dilyn gêm “er mwyn cael noson dda”.
Dywedodd ei fod yn siomedig iawn yn ei hun a’i fod wedi dysgu’i wers, a hynny ar ôl iddo eisoes fethu dwy o’r pedair blynedd diwethaf o rygbi oherwydd anafiadau difrifol i’w wddf a’i sawdl.
“Er bod Mr Cleary wedi defnyddio cocên tridiau cyn iddo chwarae, roedd y cocên dal yn ei system pan chwaraeodd e,” meddai Pennaeth Cyfreithiol UKAD, Graham Arthur.
“Mae cocên wedi’i wahardd o chwaraeon ac mae athletwyr yn gwbl gyfrifol am beth sydd yn eu system, waeth ydyn nhw wedi bwriadu twyllo ai peidio.”