Canol Paris
Mae’r heddlu ym Mharis wedi tanio nwy dagrau at yrwyr tacsi wrth i brotestiadau gael eu cynnal ledled Ffrainc ynglŷn â’u hamodau gwaith a’r gystadleuaeth gan wasanaethau cwmnïau fel Uber.

Mae cannoedd o yrwyr tacsi, gan gynnwys rhai o Wlad Belg a Sbaen, yn blocio cyffordd sy’n arwain at orllewin Paris gan amharu ar yr holl lonydd cyfagos.

Fe rwystrodd yr heddlu’r gyrwyr tacsi rhag gorymdeithio o gyffordd Porte Maillot i’r briffordd wyth lôn – drwy danio nwy dagrau atynt.

Mae’r gyrwyr tacsi yn protestio yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei ystyried yn “gystadleuaeth annheg” gan Uber, gwasanaeth sydd eisoes wedi wynebu cyfres o heriau cyfreithiol yn Ffrainc.

Mae Uber yn wasanaeth rhwydweithiol technegol sy’n cysylltu pobol â gyrwyr gan olygu y gallan nhw drefnu eu teithiau drwy eu ffonau symudol.

Cyn i’r wawr dorri bore yma, fe daniodd rhai o’r gyrwyr tacsi goelcerthi, gyda chriwiau tân yn cael eu galw i’w diffodd. Mae’r protestiadau blaenorol hefyd wedi bod yn dreisgar.