Yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad, fe gafodd 15 uned o dir cyhoeddus eu gwerthu am brisiau isel, pan allent fod wedi sicrhau degau o filiynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru.
Gwerthwyd y 15 safle am £21 miliwn pedair blynedd yn ôl. Ond, yn ôl yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, fe allent fod wedi sicrhau degau o filiynau o bunnoedd yn ychwanegol i’r pwrs cyhoeddus.
Roedd yr adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd yn feirniadol o waith Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio fel corff hyd braich i gynghori Llywodraeth Cymru.
Bwriad gwreiddiol y Gronfa oedd gwerthu’r safleoedd, gan ddefnyddio’r arian wedyn ar y cyd ag arian Ewropeaidd i ail-fuddsoddi ac adfywio ardaloedd.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, fe amlygodd Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd y Gronfa wedi sicrhau pris annibynnol, ddim wedi marchnata’r tir yn agored na chael cyngor proffesiynol cyn gwerthu’r tir.
Gwerthwyd y tiroedd sydd yn y gogledd, sir Fynwy a Chaerdydd i gwmni newydd, South Wales Land Developments, sydd â’i bencadlys yn noddfa drethi Guernsey.
Dyma adroddiad olaf y pwyllgor ar y mater, ac mae’n cynnwys 18 o argymhellion i Lywodraeth Cymru wrth fonitro a goruchwylio cyrff hyd braich yn y dyfodol.
‘Gwarth’
Fe ddywedodd Aled Roberts AC y Democratiaid Rhyddfrydol fod “yr adroddiad hwn yn ergyd enfawr i hanes y Llywodraeth Lafur wrth drin arian cyhoeddus.”
Fe ddywedodd y gallai gwerthu’r tir o eiddo cyhoeddus fod wedi codi “degau o filiynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus, ond yn hytrach cafodd y cyfle ei wastraffu. Dyw hyn yn ddim llai na gwarth.”
“Fe fethodd Gweinidogion Llafur i ddarparu trosolwg go iawn, a methodd y rheiny a gafodd eu penodi â chwblhau eu swyddi’n iawn.”
“Y pryder mwyaf yw mai dyma’r diweddaraf mewn rhestr hir o adroddiadau’n amlygu gwallau yn nhrefniadau Llywodraeth Cymru. Dro ar ôl tro, dyw Llafur ddim wedi llwyddo i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr.”
‘Diffygion difrifol’
Fe ddywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod yr adroddiad yn dangos “gwallau angheuol.”
“Roeddem ni eisoes yn gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi caniatáu gwerthu’r tir cyhoeddus gwerthfawr am brisiau gostyngol, ond mae’r adroddiad hwn hefyd yn adnabod diffygion difrifol wrth recriwtio aelodau i’r bwrdd, a methiannau mawr mewn llywodraeth gan Weinidogion Llafur.
“Roedd hwn yn gynllun arloesol, a gallai fod wedi gweithio. Ond eto, ac yn anfaddeuol, mae Gweinidogion Llafur wedi briwio’r cyfan, gan ddwyn degau o filiynau o bunnoedd oddi wrth gymunedau a allai fod wedi’i ddefnyddio ar gyfer adfywio angenrheidiol.”
‘Camau i ryddhau’r cyllid’
Fe ddywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau fod adroddiad y Pwyllgor heddiw yn “nodi’r bennod olaf ynghylch y Gronfa.”
“Mae’n golygu ein bod nawr mewn sefyllfa i gymryd camau i ryddhau’r cyllid sylweddol hwn er budd prosiectau adfywio cymunedol ledled Cymru.”
Fe esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd £16.5m yn cael ei ryddhau i brosiectau adfywio ledled Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae dau o’r prosiectau hynny wedi’u lleoli yng Nghaerdydd a Mynwy, dau o safleoedd a oedd yn rhan o Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
“Dylai taliadau cytundebau pellach yng Nghaerdydd a Mynwy hefyd arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith buddsoddi yn ystod tymor nesaf y Cynulliad,” meddai Lesley Griffiths.
Fe fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i greu swyddi, cynyddu cyflenwad tai a gwella cyfleusterau cymunedol ledled Cymru, er mai’r weinyddiaeth nesaf fydd yn gwneud y penderfyniadau yn dilyn etholiadau mis Mai.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn astudio adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus heddiw yn fanwl, meddai Lesley Griffiths, ac mae disgwyl iddyn nhw ymateb yn llawn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.