Mae plant bellach yn treulio mwy o amser ar y we na’n gwylio’r teledu, yn ôl adroddiad newydd.
Mae arolwg blynyddol gan yr asiantaeth ymchwil Childwise yn awgrymu bod pobl ifanc yn treulio tair awr y dydd ar gyfartaledd ar y we, o’i gymharu â 2.1 awr yn hwylio’r teledu.
Gwefannau fel YouTube, Instagram, Snapchat a Facebook yw’r safleoedd mwyaf poblogaidd i blant.
Roedd mwy na hanner y 2,000 o blant rhwng pump a 16 oed a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil wedi gwylio rhaglenni ar Netflix, o’i gymharu â 47% a oedd wedi gwylio ITV a 46% yn gwylio’r BBC.
Mae’n debyg fod y duedd o ganlyniad i’r ffaith bod cynnydd yn nifer y plant sy’n berchen ar dabledi – cynnydd o 50% ers y llynedd.
Dywedodd Simon Leggett, cyfarwyddwr ymchwil Childwise, bod mynediad i’r we yn “ail-ddiffinio” arferion gwylio teledu plant