Mae stormydd eira wedi parlysu rhannau dwyreiniol a deheuol yr Unol Daleithiau, gyda miliynau o bobl yn gaeth yn eu cartrefi.
Mae saith talaith wedi cyhoeddi stad o argyfwng wrth i naw o bobl gael eu lladd mewn damweiniau a rhagolygon o ddwy droedfedd o eira yn y brifddinas Washington DC.
Mae degau o filoedd o gartrefi heb drydan, a dros 7,000 o deithiau awyrennau wedi cael eu canslo.
Dywedodd Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol y wlad y gallai’r storm fod ymysg y 10 gwaethaf erioed i daro’r rhan yma o America, ac y gall effeithio ar hyd at 50 miliwn o bobl.
Mae llwybr y storm yn ymestyn o dalaith Arkansas yn y de, trwy Tennessee a Kentucky cyn belled i’r gogledd ag Efrog Newydd.
Mae rheilffyrdd tanddaearol Washington wedi cau dros y penwythnos, ac mae tua mil o weithwyr ychwanegol yn ceisio cadw trenau subway Efrog Newydd i ddal i fynd.
Mae sswyddfeydd y llywodraeth ffederal wedi cau ers ddoe a dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn y bydd yr Arlywydd Obama yn aros yno i ymochel.
Yn Washington, Baltimore a Delaware, mae archesgobaethau wedi cyhoeddi bod tywydd mor arw â hyn yn rheswm cyfiawn dros golli offeren y Sul yfory.
Washington DC yn yr eira heddiw, gyda chofeb Washinton yn y cefndir (AP Photo/Alex Brandon)