(llun o wefan yr heddlu)
Wrth barhau i ymchwilio i lofruddiaeth dyn o’r Rhyl, mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio o’r newydd am wybodaeth.
Cafwyd hyd i Liam James Hill, 44 oed, yn farw yn ei fflat yn y dref bythefnos yn ôl.
Mae plismyn yn dal yn awyddus i siarad ag unrhyw un a’i gwelodd yn y dyddiau cyn iddo farw.
“Mae’n bwysig gwybod lle’r oedd Mr Hill yn y ddeuddydd cyn i’w gorff gael ei ddarganfod,” meddai’r DCI Andrew Williams. “Gall unrhyw ddarn o wybodaeth, waeth pa mor ddibwys y gall ymddangos, fod o help allweddol inni gwblhau darlun llawn o’r hyn a ddigwyddodd.
“Dw i’n siwr fod llawer o bobl yn adnabod Liam ac yn gwybod ei fod yn hoff o’i ddiod.
“Gallai rhywun fod wedi camgymryd ei ymddygiad ar y dyddiau cyn ei farw fel canlyniad ‘un yn ormod’ ond gallai fod rheswm arall. Os gwelsoch chi ef ddydd Mercher 6 Ionawr neu ddydd Iau y 7fed, neu’n gwybod unrhyw beth am ei ffordd o fyw, gadewch inni wybod.”
Cafodd Liam Hill ei weld ddiwethaf yn nhafarn y Bar Bow yn y Rhyl nos Fercher 6 Ionawr ac o bosibl ym mwyty Indiaidd Asher gerllaw gorsaf heddlu’r dref y noson wedyn.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111 a chyfeirio at ‘Operation Panatella’.