Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (llun: Stefan Rousseau/PA)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi ailadrodd ei galwad ar i Lywodraeth Cymru ystyried rhannol wladoli gwaith dur Port Talbot.

Roedd yn siarad ar raglen Any Questions Radio 4 a oedd yn cael ei darlledu o Ddoc Penfro yr wythnos yma, lle’r oedd arweinwyr holl bleidiau Cymru’n trafod argyfwng y diwydiant dur wrth i gannoedd o weithwyr golli eu swyddi.

Roedd Leanne Wood yn cyhuddo llywodraethau Cymru a Phrydain o geisio beio’i gilydd yn lle dod at ei gilydd i geisio atebion.

“Dylid edrych ar bob dewis posibl, gan gynnnwys rhannol wladoli fel sydd wedi digwydd yn yr Almaen a’r Eidal,” meddai.

“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried menter ar y cyd gyda Tata.”

Ond wrth ymateb iddi ar y rhaglen, gwrthododd y Prif Weinidog Carwyn Jones y syniad:

“Byddai’n costio £1 biliwn, a does ar Tata ddim eisiau trefniant o’r fath p’run bynnag,” meddai.

Dywedodd fod yn rhaid i Lywodraeth Prydain gymryd camau ar frys i sicrhau bod yr Undeb Ewropaidd yn gwneud mwy i wahardd China rhag ‘dympio’ dur yn Ewrop ar brisiau sy’n is na chost ei gynhyrchu.