Mae’r £130 miliwn y mae Google wedi cytuno ei dalu i’r Trysorlys wedi cael ei ddilorni fel swm ‘chwerthinllyd’ o fach gan y Blaid Lafur.
Mae Canghellor y Wrthblaid, John McDonnell, yn galw am ymchwiliad gan Swyddfa Archwilio’r Deyrnas Unedig i’r cytundeb.
Roedd y cwmni rhyngrwyd anferthol wedi taro bargen gyda’r Trysorlys y byddai’n talu’r £130 miliwn i setlo arian a fyddai wedi bod yn ddyledus ers 2005.
Roedd hefyd wedi cytuno i dalu treth “sy’n seiliedig ar refeniw gan hysbysebwyr o Brydain ac sy’n adlewyrchu maint ac ehanger ein busnes ym Mhrydain”.
Cafodd gwerthiannau Google eu prisio i fod yn £3.8 biliwn ym Mhrydain yn ystod 2013, ond £20.4 miliwn yn unig o drethi a dalwyd gan y cwmni’r flwyddyn honno.
“Mae’n ymddangos i mi o bob dadansoddiad annibynnol fod y swm o £130 yn bitw o gymharu â’r hyn y dylid bod wedi’i dalu,” meddai John McConnell.