Donald J Trump
Dal i gael ei feirniadu mae Donald Trump, y biliwnydd sy’n ceisio cael ei enwebu’n ymgeisydd y Gweriniaethwyr am arlywyddiaeth America, am ei sylwadau ymfflamychol am Fwslimiaid.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron yn ei gyhuddo o fod yn rhwystr i’r ymdrechion i drechu eithafwyr Islamaidd.

Roedd yn cyfeirio’n benodol at alwad Trump am wahardd pob Mwslim rhag cael mynediad i’r Unol Daleithiau.

Wrth siarad â gwefan newyddion Mic.Com yn America, dywedodd David Cameron:

“Y broblem gyda’r hyn mae Donald Trump ac eraill wedi’i ddweud yw eu bod yn gwneud camgymeriad sylfaenol o geisio beio Islam yn gyffredinol a phob Mwslim am ideoleg a gweithredoedd lleiafrif.

“Mewn llawer o ffyrdd, mae hyn yn helpu’r eithafwyr, oherwydd mae arnyn nhw eisiau creu gwrthdaro gwareiddiadau, rhwng Islam a Christnogaeth neu rhwng Islam a’r Gorllewin.

“Nid gwrthdaro rhwng dau wareiddiad sy’n digwydd ond brwydr o fewn Islam, lle mae’r mwyafrif llethol yn gweld Islam fel crefydd heddychlon yn gwbl groes i leiafrif bach sy’n credu’r rethreg o eithafiaeth gwenwynig, a llawer o’r lleiafrif bach yma wedyn yn credu mewn trais.

“Felly mae’r hyn y mae Donald Trump yn ei ddweud, yn fy marn i, nid yn unig yn anghywir, ond hefyd yn gwneud y gwaith o herio a threchu’r eithafwyr yn fwy anodd.”