Mae claf oedd yn cymryd rhan mewn arbrofion ar gyfer cyffur newydd yn Llydaw wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd y claf, ynghyd â phump o bobol eraill, yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Rennes.

Mae’r ysbyty wedi rhoi gwybod i’r 84 o gleifion eraill oedd yn cymryd rhan mewn arbrofion ar gyfer cyffur sy’n seiliedig ar un o gyfansoddion y cyffur marijuana.

Dywedodd yr awdurdodau fod tri o’r bobol sydd wedi cymryd rhan yn yr arbrofion yn wynebu’r posibilrwydd o niwed ar yr ymennydd am weddill eu hoes.

Mae ymchwiliad ar y gweill.