Mae Llywodraeth Sbaen wedi ategu eu gwrthwynebiad i refferendwm annibyniaeth yng Nghatalwnia.

Daw hyn ar ôl i Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, sefydlu pwyllgor tebyg i’r hyn gafodd ei sefydlu yn Quebec i ystyried Deddf Eglurder.

Yn ôl María Jesús Montero, gweinidog cyllid Sbaen, fydd dim refferendwm annibyniaeth tra bod Pedro Sánchez yn arwain y llywodraeth ac mae Llywodraeth Catalwnia’n “gwybod yn iawn” na fydd Cabinet Sbaen yn derbyn y cynnig ar gyfer Deddf Eglurder gan ei fod “yn mynd yn groes i’r Cyfansoddiad”.

Mae hi’n dweud mai nod gwleidyddiaeth yw rhoi “datrysiadau defnyddiol i bobol”, ac nid “mynd i’r afael â phynciau sydd y tu hwnt i gyfreithlondeb ac sydd â’r bwriad o dynnu sylw oddi ar yr hyn sydd bwysicaf”.

Pere Aragonès

Sefydlu pwyllgor i drafod annibyniaeth i Gatalwnia

Bydd yn gweithredu’n debyg i Bwyllgor Deddf Eglurder Quebec