Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn adlewyrchu ar flwyddyn o gryfhau cysylltiadau rhwng Cymru a Chanada, wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc eleni.
Bu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu ar flwyddyn Cymru yng Nghanada 2022 mewn blog gafodd ei rannu ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 11), drwy restru rhai o’r gweithgareddau sydd wedi bod ar y gweill ledled Canada y llynedd.
Yn ystod y flwyddyn, roedd dros 70 o weithgareddau gyda’r bwriad o adeiladu ar y cysylltiadau rhwng Cymru a Chanada.
Eleni, bydd Llywodraeth Cymru’n dathlu’r cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc drwy gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau tebyg er mwyn datblygu’r bartneriaeth rhwng y ddwy wlad.
‘Codi proffil Cymru ar draws yr Iwerydd’
Roedd y gweithgareddau’n amrywio o rai oedd yn ymwneud a chelfyddydau a diwylliant, i fasnach a buddsoddiad, chwaraeon, gwyddoniaeth, cynaliadwyedd a thwristiaeth.
Ymysg y rhain roedd ymweliad Llywodraeth Cymru â Montreal, lle buon nhw’n cynrychioli Cymru yn COP15 fis Mawrth y llynedd.
Ym maes y celfyddydau, bu’r bandiau Adwaith a Seazoo yn perfformio yn Calgary yn yr ŵyl BreakOut West, tra roedd dangosiad ffilm yn ystod dathliadau Pride Ottawa am fywyd yr actifydd traws Donna Personna, gafodd ei ariannu gan Ffilm Cymru a Chymru Greadigol.
“Rhan o’n rôl ni gyda Llywodraeth Cymru yw datblygu perthnasau newydd, codi proffil Cymru, dathlu beth sydd gan Gymru i’w gynnig a dysgu hefyd gan wledydd gwahanol, felly mae’n rili lyfli gallu bod yma a chreu’r perthnasau newydd yma,” meddai Lowri Llywelyn am y prosiect.
Cafodd 2,000 o drigolion Canada eu cludo’n rhithiol i Gymru hefyd, drwy ddefnyddio dyfais realaeth rithiol yn Doors Open Ottawa, sef digwyddiad pensaernïol a threftadaeth fwyaf y ddinas.
‘Cysylltiadau cryf dwy genedl Geltaidd’
Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi symud yn eu blaenau i ddathlu cysylltiadau Cymru a Ffrainc.
Mae rhestr eisoes o elfennau sydd gan y ddwy wlad Geltaidd yn gyffredin.
Er enghraifft, mae enw anthem Llydaw, ‘Bro Gozh ma Zadoù’, yn rhannu’r un ystyr â ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Yn ogystal, mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn gartref i’r casgliad mwyaf o gelf gan yr Argraffiadwyr Ffrengig y tu allan i Ffrainc, gan gynnwys darnau gan yr arlunwyr Monet a Renoir.
Mae deg tref, dinas a chomiwn wedi’u gefeillio rhwng Cymru a Ffrainc, gan gynnwys Caerdydd a Nantes, Bae Colwyn a Roissy-en-Brie, Dolgellau a Guérande, Caernarfon a Landerneau, a Harlech a Riec-sur-Belon.
Yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, Ebrill 6), rhannodd Llywodraeth Cymru Ryngwladol rai o’r cysylltiadau eraill rhwng y ddwy wlad.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae tua 80 cwmni Ffrengig yn cyflogi dros 10,000 o bobol yng Nghymru, tra bod buddsoddiadau gan y cwmnïau hyn wedi creu 1,700 o swyddi newydd dros yr wyth mlynedd ddiwethaf.
Amlinellwyd mai Ffrainc yw’r bedwaredd farchnad allforio fwyaf ar gyfer nwyddau Cymreig, megis offer trafnidiaeth, paratoi cig a cherbydau.
Wrth gyfeirio at flwyddyn Cymru yng Nghanada, dywed Llywodraeth Cymru mai’r “hyn rydym wedi’i ddysgu eleni yw bod gan ein dwy wlad fwy yn gyffredin nag a ragwelwyd”.
“Yn ystod blwyddyn Cymru yng Nghanada, rydym wedi datblygu ac atgyfnerthu ein perthynas gyda Chanada ac wedi creu gwaddol a fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod.”
Bydd blwyddyn Cymru yn Ffrainc yn anelu i gyflawni’r un nod, sef “cryfhau’r berthynas ddiwylliannol a masnachol rhwng y ddwy wlad”.