Mae rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ceredigion i symud tuag at ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol.
Maen nhw wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Iaith yn galw arni i annog Cyngor Ceredigion i symud at weinyddu yn Gymraeg, gan mai un o nodau’r Llywodraeth yn ‘Cymraeg 2050’ yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector.
Mae’r polisi’n nodi bod “rhai cyrff eisoes yn arwain y ffordd yn hyn o beth ac yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddu mewnol, gan gynyddu’r galw am sgiliau Cymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio”.
Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol ers 1996, tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwneud hynny ers 2014 a Chyngor Môn ers 2017.
Yr eithriad amlwg ymhlith siroedd Arfor yw Cyngor Ceredigion, nad yw’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol nac wedi ymrwymo i gyrraedd y nod chwaith.
Y sefyllfa yng Ngheredigion
Ar Fawrth 25, 2011, fe ymrwymodd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion ar y pryd, i gefnogi’r egwyddor o wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol Cyngor Ceredigion, ond does dim symud wedi bod ers hynny.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, petai Cyngor Ceredigion yn mabwysiadu’n ffurfiol yr egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol, nid yn unig y byddai hyn yn galluogi’r siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn gweithio i’r Cyngor i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith yn eu gwaith bob dydd, ond byddai hynny hefyd yn gweithredu fel cymhelliad i eraill wella eu sgiliau Cymraeg fel y gallent nhw weithio drwy’r Gymraeg neu ddysgu’r iaith.
Mae’r Cyngor yn un o brif gyflogwyr y sir felly mae rhan allweddol ganddo wrth greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd a thrwy hynny gyfrannu at y twf yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir.
Heb nod clir, bydd sefyllfa’r Gymraeg o fewn y Cyngor yn aros yn statig, meddai’r Gymdeithas.
O edrych ar Adroddiadau Blynyddol Safonau’r Gymraeg y Cyngor rhwng 2018 a 2022, mae canran y staff sy’n siarad ac yn deall Cymraeg yn rhugl (ALTE lefel 5) wedi aros o gwmpas 33%; y ganran sy’n gallu ysgrifennu Cymraeg yn rhugl wedi aros ar 25%; a’r ganran sy’n gallu darllen Cymraeg yn rhugl wedi aros ar 29%.
Mae’r ganran sy’n gallu siarad a deall Cymraeg rhwng lefelau 3 a 5 wedi amrywio rhwng 62% a 63%.
Dydy nod niwlog o anelu at gynyddu nifer y staff sydd â sgiliau yn yr iaith neu wella sgiliau unigolion y tu allan i fframwaith sy’n symud yr holl gorff tuag at weithio drwy’r Gymraeg yn bennaf yn creu digon o ysgogiad ar gyfer cynnydd ystyrlon, meddai’r Gymdeithas.
Galw am “newidiadau polisi cadarn a phendant”
“Sylweddolwn nad dros nos y bydd y Cyngor yn gallu troi i weinyddu drwy’r Gymraeg yn bennaf, ond nid yw hynny’n rheswm dros beidio ag anelu at hynny,” meddai Siân Howys ar ran rhanbarth Ceredigion a grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith.
“O osod nod pendant tuag at weithio’n bennaf yn Gymraeg, gellid dechrau drwy symud at wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol yn y dyfodol agos.
“Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn gofyn am newidiadau polisi cadarn a phendant i wrthdroi dirywiad presennol yr iaith yn y sir.
“Mae newid prif iaith weinyddiaeth fewnol Cyngor Ceredigion i’r Gymraeg yn un o’r newidiadau sy’n hanfodol wrth inni wireddu’r nod hwnnw.”