Mae Liz Saville Roberts yn galw am “fecanwaith i amddiffyn datganoli Cymru”.

Mewn erthygl ar wefan Nation.cymru, mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dweud bod “economi Cymru wedi cael ei brifo a’n sefydliadau wedi’u tanseilio”.

Daw hyn yng nghyd-destun “sefyllfa anhygoel o arbennig” Gogledd Iwerddon, sydd yn dal i fod â mynediad i’r farchnad sengl ar ôl Brexit.

“Yn y cyfamser mae economi Cymru wedi cael ei brifo a’n sefydliadau wedi’u tanseilio,” meddai’r blaid.

“Mae angen mecanwaith arnom i amddiffyn datganoli Cymru a gwarchod ein heconomi rhag Brexit.”

Pam fod angen “brêc Senedd” i warchod datganoli

“Allwn ni yng Nghymru ddim ond edrych mewn braw wrth i siarlataniaid Torïaidd oedd yn hybu Brexit fel cyfle economaidd i’n cymuned ymfalchïo bellach ym mynediad parhaus Gogledd Iwerddon i’r farchnad Ewropeaidd – yr un farchnad y gwnaethon nhw ei rhwygo oddi ar y gweddill ohonom,” meddai Liz Saville Roberts.

“Er gwaetha’r ffaith fod y DUP yn parhau i fynnu cyfrif dannedd march rhodd, rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi croesawu Fframwaith Windsor fel sail er mwyn adfer llywodraeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon.

“Ond mae’n codi nifer o gwestiynau i Gymru nad ydyn ni wedi cael atebion boddhaol iddyn nhw eto.

“O’r dechrau’n deg, rydyn ni wedi bod yn gofyn am eglurder ynghylch goblygiadau’r ‘lôn werdd’ newydd ar gyfer nwyddau sy’n mynd am Ogledd Iwerddon drwy borthladdoedd Cymru.

“Cyn Brexit, roedd oddeutu 30% o’r nwyddau’n symud trwy borthladd Caergybi ar eu ffordd i Ogledd Iwerddon neu yn ôl.

“Ers Brexit, mae cyfanswm y fasnach ar y llwybr yma wedi gostwng.

“Dydyn ni ddim eto wedi cael manylion pendant ynghylch a fydd Fframwaith Windsor, a sut y bydd yn hwyluso llif nwyddau rhwng Caergybi a Dulyn.

“Mae’r fath atebion rydyn ni wedi’u derbyn i gwestiynau ynghylch hyn i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru wedi bod yn bytiog a hyd yn oed yn gwrthddweud ei gilydd.

“Mae hyn yn dyst i’r ffordd mae Cymru wedi cael ei hanghofio trwy gydol y broses Brexit.

“Mae’r diffyg ystyriaeth i borthladdoedd Cymru yn adlewyrchu gwthio Cymru i’r cyrion yn ehangach mewn economi ôl-Brexit yn y Deyrnas Unedig, na fydd byth yn gweithio er ein lles ni.

“Yn ddrych i’r ffordd y cafodd Brexit ei negodi’n fwy cyffredinol, doedd gan Lywodraeth Cymru ddim rhan yn negodi Fframwaith Windsor.

“Yn wahanol i Gynulliad a Phwyllgor Gwaith Gogledd Iwerddon, does gan y Senedd na Llywodraeth Cymru ddim rôl wedi’i gwarchod yn llywodraethiant Protocol Gogledd Iwerddon.

“Mae hyn er gwaetha’r effaith mae’r Protocol wedi’i chael yng Nghymru, gan gynnwys masnachu trwy ein porthladdoedd.

“Mae Fframwaith Windsor yn gwneud llai na dim byd i fynd i’r afael â hyn.”

‘Parodrwydd i danseilio llywodraeth ddatganoledig Cymru’

Yn ôl Liz Saville Roberts, dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig “ddim wedi dangos unrhyw bryder am fwlch democrataidd ôl Brexit i Gymru”.

“I’r gwrthwyneb,” meddai, gan gyfeirio at Ddeddf y Farchnad Fewnol, a dosbarthu arian dros ben Llywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Ffyniant a Rennir.

“Mae llywodraethau Torïaidd olynol yn San Steffan yn gyson wedi dangos eu parodrwydd i danseilio llywodraethau datganoledig Cymru,” meddai.

Dywed ei bod hi’n “disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig anwybyddu ewyllys Senedd Cymru” ar fater y Bil Cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd a Gadwyd, gan ofyn “beth yw hyn os nad yw’n fwlch democratiadd?”

“Mae angen brêc Senedd effeithiol arnom ar barodrwydd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig i sathru ar ein setliad datganoli, ac i warchod Cymru rhag effeithiau niweidiol Brexit caled nad oedd ein sefydliadau democrataidd wedi cydsynio iddyn nhw,” meddai.

“Yn y pen draw, mae’r brêc mwyaf effeithiol (yn wir, yr unig un) i’w ganfod mewn annibyniaeth i Gymru.”