Heddlu yn ardal hanesyddol, Sultanahmet, yn Istanbwl, wedi'r ffrwydrad ddoe
Mae Twrci wedi ymosod ar safleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Irac a Syria mewn ymateb i ymosodiad gan y grŵp brawychol yn Istanbul ddoe a laddodd 10 o dwristiaid.

Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu, bod 200 o eithafwyr IS wedi eu lladd wrth i’r fyddin dargedu 500 o safleoedd ar hyd y ffin rhwng Twrci â Syria a ger gwersyll Twrcaidd yng ngogledd Irac.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i wrthryfelwyr Cwrdaidd danio bom car ger gorsaf heddlu yn ne ddwyrain Twrci cyn ymosod ar yr orsaf heddlu gyda thaflegrau a gynnau. Lladdwyd chwech o bobl yn yr ymosodiad, gan gynnwys plant, ac mae o leiaf 39 o bobl eraill wedi cael eu hanafu.

Ymosodwyd ar orsaf heddlu arall yn nhref Midyat yr un pryd ond mae’n debyg na chafodd unrhyw un eu hanafu yno.

Mae pump o bobl wedi cael eu cadw yn y ddalfa mewn cysylltiad ag ymosodiad Istanbul, meddai’r awdurdodau.

Fe wnaeth y gwrthdaro rhwng lluoedd diogelwch Twrci a gwrthryfelwyr Plaid Gweithwyr Cwrdistan, neu’r PKK, ailddechrau ym mis Gorffennaf gan chwalu proses heddwch bregus.

Mae’r gwrthdaro wedi lladd degau o filoedd o bobl ers 1984. Mae’r PKK yn cael ei ystyried yn sefydliad brawychol gan Dwrci a’u cynghreiriaid gorllewinol.