Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol yng Nghaerdydd y bore ma.
Cafodd dyn, 38 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond bu farw’n ddiweddarach.
Roedd ei gar Daihatsu Charade lliw arian wedi gwyro oddi ar y ffordd gan daro wal yn Heol Willowbrook, Llaneirwg, tua 7.10 fore dydd Iau, 14 Ionawr.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600014173.