Llys Ynadon Wrecsam
Mae dyn o Sir y Fflint wedi cael dirwy o £21,000 am gadw dros 100 o fewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop mewn eiddo oedd yn “gwbl anaddas” ac yn “berygl mawr i’w hiechyd.”
Mae’r landlord, John Russell Brown, hefyd yn wynebu talu costau o dros £56,000.
Roedd 107 o fewnfudwyr, gan gynnwys plentyn 8 oed, yn byw ar hen safle gwerthu nwyddau yn Sealand, ger Glannau Dyfrdwy.
Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gweithio ar dir amaethyddol yn Sealand.
Clywodd Llys Ynadon Wrecsam fod y bobol yn gorfod rhannu chwe thoiled, chwe chawod a thair cegin yn yr adeilad. Doedd dim mynediad i ddŵr twym yno chwaith.
Fe gawson nhw eu darganfod yn dilyn cyrch gan Gyngor Sir y Fflint.
Roedd John Brown yn codi £50-£55 yr wythnos ar bob unigolyn i aros yn yr adeilad, oedd yn talu incwm o tua £23,000 y mis iddo.
Yn y llys heddiw fe blediodd Brown, a’i gwmni, Hyperion Investments, yn euog o 12 cyhuddiad o dan y Ddeddf Tai.