Mae Heddlu’r Gogledd wedi dweud eu bod nhw’n trin marwolaeth dyn yn Y Rhyl fel un amheus.

Cafwyd hyd i gorff Liam James Hill, 44, mewn fflat yn West Parade yn y dref am 2yp ar ddydd Gwener, 8 Ionawr.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Mawrth sydd wedi dangos y gallai fod wedi marw o ganlyniad i weithred droseddol.

O ganlyniad mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Williams: “Yn dilyn archwiliad post mortem mae gennym bryderon sylweddol am anafiadau y cafwyd hyd iddyn nhw gan y patholegydd ac o ganlyniad rydym wedi lansio ymchwiliad.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn gwybod am ei arferion, ei ffrindiau, neu a oedd wedi’i weld cyn iddo farw.

Mae swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn rhoi cymorth i deulu Liam Hill.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar

0800 555 111.