Stadiwm Principality
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl gwerthu pob un tocyn ar gyfer holl gemau cartref Cymru yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ers 2008.

Fe fydd tîm Warren Gatland yn croesawu’r Alban, Ffrainc a’r Eidal i Stadiwm Principality, gyda thocynnau’r ornest yn erbyn yr Albanwyr eisoes wedi mynd i gyd.

Dywedodd yr Undeb mai dim ond ychydig filoedd oedd ar ôl ar gyfer y ddwy gêm arall, a’u bod yn disgwyl i’r rheiny fynd o fewn yr wythnosau nesaf.

Eleni yw’r tro cyntaf y mae system ailwerthu tocynnau newydd hefyd wedi cael ei ddefnyddio, sydd yn caniatáu clybiau rygbi i ailwerthu rhai o’u tocynnau am bris uwch na’r gwreiddiol.

‘Taclo towts’

Mae wyth mlynedd wedi mynd heibio ers i bob un o gemau cartref Cymru yn erbyn yr Alban, yr Eidal a Ffrainc werthu allan, a hynny yn y flwyddyn enillodd Warren Gatland ei Gamp Lawn gyntaf gyda’r tîm.

Ac mae’r gwerthiant uchel eleni’n awgrym bod y brwdfrydedd o gwmpas y tîm cenedlaethol a welwyd yn ystod Cwpan y Byd yn parhau i fod yno wrth i’r tîm droi eu sylw nôl at gystadleuaeth hemisffer y gogledd.

Eleni mae URC hefyd wedi lansio cynllun newydd sydd yn caniatáu i glybiau rygbi ailwerthu hyd at 10% o’r tocynnau Cymru maen nhw’n ei dderbyn ar y we, yn uwch na’r pris gwreiddiol, er mwyn gwneud elw.

Yn ôl yr Undeb mae’r cynllun yn ffordd o daclo towtiaid tocynnau, gan fod cefnogwyr yn gallu prynu’r tocynnau ar wefan Seatwave gan wybod y byddan nhw’n sicr o’u derbyn, a golygu bod yr elw yn mynd i glybiau yn hytrach na gwerthwyr.

Ond yn Golwg yr wythnos hon mae’r colofnydd Phil Stead wedi codi pryderon a yw’n gam sydd yn cydnabod ei bod hi’n amhosib bellach i ennill y frwydr yn erbyn towtiaid tocynnau.

Dros ddwbl y pris

Cafodd pryderon eu codi llynedd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd bod nifer o docynnau, oedd eisoes yn gymharol ddrud, yn cael eu gwerthu ar y farchnad ddu am lawer uwch na’u gwerth gwreiddiol.

Ar gyfer gemau cartref yn y Chwe Gwlad eleni roedd cost wreiddiol tocynnau gêm Cymru v Yr Alban rhwng £30 a £75, gêm Cymru v Ffrainc rhwng £35 a £85, a gêm Cymru v Yr Eidal rhwng £30 a £70.

Ond ar wefan Seatwave, partner swyddogol URC ar gyfer ailwerthu tocynnau, mae’r rhai rhataf ar gyfer gêm yr Alban eisoes yn £135 yr un, gyda rhai’n costio cymaint â £289.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm honno hefyd ar werth ar wefannau tocynnau poblogaidd eraill fel Viagogo am dros £100 yr un.

Gemau Cymru yn y Chwe Gwlad

07/02/2016 15:00 Iwerddon v Cymru, Stadiwm Aviva

13/02/2016 16:50 Cymru v Yr Alban, Stadiwm Principality

26/02/2016 20:05 Cymru v Ffrainc, Stadiwm Principality

12/03/2016 16:00 Lloegr v Cymru, Twickenham

19/03/2016 14:30 Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Principality