A fydd y gwaharddiad yn golygu diwedd i sôn fod Bale ar ei ffordd allan o Fadrid? (llun: Adam Davy/PA)
Mae Real Madrid ac Atletico Madrid wedi cael gwaharddiad rhag prynu chwaraewyr ar ôl torri rheolau yn ymwneud â throsglwyddiadau.
Fyddai’n gwaharddiad ddim yn dechrau tan yr haf, gan olygu y gallan nhw dal recriwtio fis yma, ond fyddai gan yr un o’r clybiau hawl wedyn i brynu unrhyw chwaraewr nes haf 2017.
Mae’r ddau glwb yn debygol o apelio, ond fe gafodd Barcelona waharddiad tebyg llynedd am arwyddo chwaraewyr dan oed a dim ond nawr mae’r gwaharddiad hwnnw wedi dod i ben.
Mae’n golygu ei bod hi’n debygol iawn felly na fydd Real Madrid yn gwerthu unrhyw un o’u sêr mawr, gan gynnwys Gareth Bale, am o leiaf blwyddyn a hanner.
Bale i aros?
Petai Real ac Atletico yn methu yn eu hapêl fe fyddai ganddyn nhw hawl i werthu ond nid prynu chwaraewyr dros gyfnod y gwaharddiad.
Ond gyda’r ddau glwb yn cystadlu i ennill La Liga a Chwpan Ewrop, fe fydden nhw’n annhebygol iawn o werthu sêr mawr os nad oedden nhw’n gallu dod ag eraill i mewn yn eu lle.
Byddai’n golygu bod seren Cymru Gareth Bale bron yn sicr o gael ei gadw gan Real, er gwaethaf sôn bod clybiau o Uwch Gynghrair Lloegr yn awyddus i’w arwyddo.
Ond fe fyddai hefyd yn golygu bod enwau mawr eraill fel Cristiano Ronaldo, Karim Benzema a James Rodriguez yn aros, er gwaethaf diddordeb oddi wrth glybiau eraill.
Mae’n debyg bod Real Madrid wedi bod yn ystyried gwerthu Ronaldo a Benzema yn yr haf am arian sylweddol, gan olygu y byddai’r tîm yn cael ei hadeiladu o gwmpas Bale yn y dyfodol, ond fe allai’r gwaharddiad trosglwyddo newid y cynlluniau hynny.