Fe fydd y Gweilch yn gorfod gwneud heb Dan Lydiate wrth iddyn nhw groesawu sêr Clermont i Stadiwm Liberty nos Wener yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Dyw blaenasgellwr Cymru heb wella o anaf i’w wddf, gan olygu y bydd Sam Underhill yn cymryd ei le ar gyfer ei gêm Ewropeaidd gyntaf.
Bydd yr ornest hefyd yn garreg filltir i’r bachwr Scott Baldwin, fydd yn chwarae dros y Gweilch am y 100fed tro.
Mae’n rhaid i dîm Steve Tandy ennill os ydyn nhw am godi i frig y grŵp, ac fe fyddai colli’r gêm mwy neu lai yn debygol o olygu bod eu gobeithion o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth ar ben.
‘Gêm fwyaf mewn pum mlynedd’
Mae’r Gweilch yn debygol o wynebu canolwr Cymru Jonathan Davies yn nhîm Clermont, ac fe ddywedodd Tandy nad oedd amheuaeth y bydd yr ornest yn her a hanner i’w fechgyn.
“Mae’n amser cyffrous iawn, mwy na thebyg y gêm fwyaf rydyn ni wedi’i gael ar y Liberty ers pedair neu bum mlynedd,” meddai Tandy.
“Rydyn ni’n gwybod am Clermont a’r gallu sydd ganddyn nhw reit drwy’r garfan.
“Ond fe fydd mynd benben â’r tîm ddaeth yn ail yng nghynghrair Ffrainc a Chwpan Ewrop llynedd yn rhywbeth fydd yn siŵr o gyffroi, ac fe ddylai fod yn achlysur i’w fwynhau i’r cefnogwyr, chwaraewyr a hyfforddwyr nos Wener.”
Tîm y Gweilch: Paul James, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Ashley, Alun Wyn Jones (capt), Sam Underhill, Justin Tipuric, James King; Brendon Leonard, Dan Biggar, Eli Walker, Josh Matavesi, Jonathan Spratt, Hanno Dirksen, Dan Evans
Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Ma’afu Fia, Rory Thornton, Dan Baker, Tom Habberfield, Sam Davies, Owen Watkin