Fe fydd Hallam Amos yn dychwelyd i dîm y Dreigiau am y tro cyntaf ers iddo anafu ei ysgwydd yn chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd ar gyfer eu gêm yn erbyn Castres nos Wener.

Mae’n rhaid i’r rhanbarth o Went ennill er mwyn sicrhau eu bod nhw’n aros ar frig y grŵp, gyda Sale hefyd yn cystadlu i gyrraedd y rownd nesaf.

Yn ogystal ag Amos mae hyfforddwr y Dreigiau Lyn Jones wedi ychwanegu’r canolwr Adam Hughes a’r maswr Jason Tovey i’r tîm, tra bod Taulupe Faletau hefyd yn dychwelyd o anaf i hawlio’r crys rhif wyth.

Bydd Cory Hill hefyd yn dychwelyd i’r ail reng tra bod y rheng flaen wedi cael ei newid yn gyfan gwbl, gyda Phil Price a Brok Harris yn ymuno â’r bachwr Elliott Dee.

Tîm y Dreigiau: Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, Cory Hill, Rynard Landman (capt), Lewis Evans, Nic Cudd, Taulupe Faletau; Sarel Pretorius, Jason Tovey, Hallam Amos, Adam Warren, Adam Hughes, Ashton Hewitt, Carl Meyer

Eilyddion: Thomas Rhys Thomas, Boris Stankovich, Shaun Knight, Matthew Screech, Ed Jackson, Charlie Davies, Angus O’Brien, Nick Scott