Confoi o loriau yn cludo cymorth dyngarol i Madaya, Syria Llun: UNHCR
Mae cyflenwadau o fwyd ac offer meddygol wedi gadael Damascus ar ei ffordd i dref Madaya yn Syria sydd wedi cael ei meddiannu gan wrthryfelwyr.
Mae confoi o gyflenwadau tebyg ar eu ffordd i bentrefi Foua a Kfarya yng ngogledd Idlib, sydd hefyd dan warchae.
Dyma’r ail gyflenwad o gymorth dyngarol i gyrraedd y cymunedau ers dydd Llun.
Mae Madaya, ger y ffin a Libanus, wedi bod dan warchae ers yr haf y llynedd gan luoedd sy’n deyrngar i’r Arlywydd Bashar Assad. Daeth i sylw rhyngwladol yn ddiweddar yn sgil adroddiadau bod pobl yno yn llwgu. Credir bod tua 40,000 o bobl yno.
Mae tua 50 o loriau yn rhan o’r confoi diweddaraf sydd ar ei ffordd i Madaya.