Canolfan Pontio ym Mangor
Mae’r oedi mewn agor canolfan Pontio wedi costio bron i £1 miliwn i Brifysgol Bangor.

Roedd y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi yn y ddinas i agor ym mis Medi 2014 ac roedd mwyafrif o gyllid y prosiect yn dod o arian cyhoeddus – £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru, £12.5 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a £3.25 miliwn gan y Cyngor Celfyddydau.

Amcangyfrif cost wreiddiol yr adeilad oedd £37 miliwn ond £49 miliwn oedd y ffigwr terfynol a daeth £30 miliwn o’r pwrs cyhoeddus.

Agorodd y ganolfan flwyddyn yn hwyr yn Hydref 2015 oherwydd oedi gyda’r gwaith adeiladu.

Cais rhyddid gwybodaeth

Wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, dywedodd Prifysgol Bangor eu bod nhw wedi colli £633,000 o’r incwm oedden nhw’n disgwyl ei gael drwy werthu tocynnau i sioeau dros y cyfnod hwnnw.

Yn ogystal, fe wnaeth y Brifysgol wario £280,000 ar ganslo sioeau ac ad-dalu cwsmeriaid oedd wedi prynu tocynnau’n barod .

Ond dyw hi ddim yn glir a fydd y Brifysgol yn gallu hawlio rhan o’r arian a gollwyd gan y datblygwyr a oedd yn hwyr yn cyflwyno’r cynllun. Meddai’r Brifysgol fod y wybodaeth yna yn fasnachol gyfrinachol.

‘Siomedig iawn’

Mewn datganiad, meddai llefarydd ar ran Pontio: “Roedd yr oedi yn agor Pontio yn siomedig iawn i bawb. Fodd bynnag, mae’r ganolfan bellach wedi agor ac mae miloedd eisoes wedi ymweld â’r adeilad. Mae’r ganolfan yn dechrau ar gyfnod newydd ar ddiwedd y mis hwn wrth i fyfyrwyr dechrau mynychu darlithoedd yno ac wrth i Undeb y Myfyrwyr symud i mewn i’w swyddfeydd newydd.

“Er bod yr oedi wedi ychwanegu cost ychwanegol, mae’n bwysig nodi na wariwyd ar gynyrchiadau yn ystod y cyfnod a doedd dim costau rhedeg yr adeilad yn ystod y cyfnod hwnnw chwaith. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl,  rydym ni’n parhau mewn trafodaethau gyda’r contractwr, ac ni fydd y sefyllfa ariannol terfynol yn wybodus am  beth amser.”