Mae  heddlu mwyaf Prydain wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cynyddu nifer eu plismyn arfog o 600 yn sgil ymosodiadau brawychol diweddar.

Mae gan Heddlu’r Metropolitan 2,2oo o blismyn arfog ar hyn o bryd.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil ymosodiadau brawychol ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Metropolitan Syr Bernard Hogan-Howe ei fod yn “opsiwn drud ond yn angenrheidiol er mwyn ein cadw’n ddiogel.”