Mae nifer o ffyrdd ar draws Cymru ynghau bore ma oherwydd eira.

Yn y gogledd mae Bwlch yr Oernant ger Llangollen wedi cau ac mae’r heddlu’n rhybuddio bod cyflwr yr A494 ger Llanbedr Dyffryn Clwyd wedi dirywio’r bore ma a’i bod yn bosib gyrru ar hyd y lon gyda gofal.

Er i Fwlch y Gorddinan ar yr A470 ger Blaenau Ffestiniog gael ei gau neithiwr, mae wedi ailagor erbyn hyn, ond mae’r heddlu’n apelio ar bobl i yrru’n ofalus.

Yn y de, mae cwmni bysus Stagecoach wedi dweud nad yw eu gwasanaeth 27 yn ardal Abertawe yn gwasanaethu Twyncarmel oherwydd eira ar y ffordd ar hyn o bryd.

A bu’r A474 yng Nghastell-nedd ynghau yn gynharach heddiw wedi i gar droi drosodd ar ol llithro ar rew rhwng  Cwmgors a Phontardawe.