Heddlu ger safle'r ffrwydrad yn Jakarta, Indonesia
Mae saith o bobl, gan gynnwys pedwar o ymosodwyr, wedi cael eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau gan hunan-fomwyr ym mhrifddinas Indonesia, Jakarta bore ma.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod swyddogion wedi dod o hyd i gyrff yr ymosodwyr ond nid yw’n glir a oes rhagor a’u traed yn rhydd.
Fe fu tri ffrwydrad mewn ardal brysur yng nghanol Jakarta bore ma a sŵn saethu, ac yn ôl un llygad dyst fe ddigwyddodd y ffrwydradau mewn caffi Starbucks.
Dywedodd Starbucks bod adroddiadau’n awgrymu bod y ffrwydrad wedi digwydd yn agos i un o’u siopau yn adeilad Skyline. Cafodd un o’u cwsmeriaid eu hanafu yn y ffrwydrad a chafodd driniaeth ar y safle, ond roedd eu staff i gyd yn ddiogel, meddai’r cwmni.
“Rydym wedi ein tristau yn ofnadwy gan y gweithredoedd disynnwyr sydd wedi digwydd yn Jakarta heddiw; mae ein calonnau gyda phobl Indonesia,” meddai’r cwmni.
Fe fydd holi siopau’r cwmni yn Jakarta ynghau am y tro, meddai Starbucks.
Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yn hyn ond roedd yr heddlu wedi rhybuddioyn ystod yr wythnosau diwethaf bod milwriaethwyr Islamaidd yn cynllwynio digwyddiad mawr.
“Mae’n amlwg mai bwriad y weithred hon oedd aflonyddu ar y drefn gyhoeddus a lledaenu arswyd ymysg pobl,” meddai’r Arlywydd Joko Widodo mewn datganiad ar y teledu. Roedd ar ymweliad a thref Cirebon yng ngorllewin Java, ond bydd yn dychwelyd i Jakarta ar unwaith.