Canolfan Techniquest ym Mae Caerdydd (llun: Pauline Eccles/cc2.0)
Mae Techniquest wedi dweud y byddan nhw’n edrych ar ffyrdd newydd o gyllido’u hunain yn sgil toriad o 22% yn y grant maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Does dim sicrwydd eto y bydd yr elusen addysgol, sydd â chanolfannau ym Mae Caerdydd a Wrecsam, yn parhau i dderbyn ei £1.3m o arian cyhoeddus ar ôl 2019.

Mae’r canolfannau addysgol yn canolbwyntio’n bennaf ar feysydd fel gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg a pheirianneg, ac yn adnodd dysgu poblogaidd ar gyfer ysgolion.

Ffynonellau eraill

Yn ogystal â’r grant mae Techniquest hefyd yn creu incwm ei hun drwy dwristiaeth a gweithgareddau masnachol eraill, ond mae’r llywodraeth yn cyfrannu tua 40% o’i chyllid.

Dywedodd yr elusen eu bod yn “deall” ei bod hi’n gyfnod o gwtogi ariannol a’u bod yn cydweithio â’r llywodraeth i “symud oddi wrth” gyllid cyhoeddus.

“Rydyn ni’n croesawu sylwadau positif y gweinidog addysg Huw Lewis bod Techniquest yn darparu gwasanaeth ‘gwerthfawr’ ac ‘o safon dda’,” meddai’r mudiad mewn datganiad.

“Rydym am i hynny barhau, ac rydyn ni’n credu y gallwn ni ddod o hyd i fodelau ariannol gwahanol er mwyn sicrhau Techniquest sydd wedi’i chyllido’n dda.”