Carles Puigdemont
Cafodd Carles Puigdemont ei dderbyn yn swyddogol fel arweinydd newydd Catalwnia nos Fawrth – ond fe wrthododd dyngu llw i frenhiniaeth Sbaen.
Yn y seremoni yn y Palau de la Generalitat yn Barcelona, fe dyngodd Puigdemont, a gafodd ei ddewis i olynu Artur Mas, lw i “ewyllys pobol Catalwnia sydd wedi’u cynrychioli gan Senedd Catalwnia”.
Wnaeth Puigdemont ddim tyngu llw ychwaith i Gyfansoddiad Sbaen, y cyfansoddiad y mae gweriniaethwyr wedi cael eu cyhuddo o’i dorri drwy ymgyrchu’n frwd dros gynnal refferendwm annibyniaeth.
Yn y gorffennol, fe fu’n rhaid i arweinwyr Catalwnia dyngu llw i’r Brenin, y Cyfansoddiad, y Statud Awtonomiaeth a sefydliadau cenedlaethol Catalwnia.
Ond cafodd cymal newydd ei dderbyn ar Dachwedd 9 y llynedd oedd yn golygu nad oes rhaid bellach i arweinwyr dyngu’r fath lw.
Wrth dderbyn y swydd, dywedodd Puigdemont fod pobol Catalwnia’n cael eu beirniadu “am gydnabod ein hunaniaeth a’n hiaith”.
Cafodd cais ei gyflwyno’n ysgrifenedig mewn e-bost fel na fyddai’n rhaid i Puigdemont ymddangos gerbron y Brenin i dderbyn y swydd.