Mae gwaith ymchwil newydd gan Oxfam Cymru yn dangos bod 16% o boblogaeth Cymru bellach yn berchen ar yr un faint o gyfoeth a phawb arall gyda’i gilydd.

Yn ôl y mudiad elusennol, sy’n lansio ei gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru heno, mae hyn yn amlygu maint y raddfa anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru.

Mae’r weledigaeth, ‘Unioni’r Glorian: Glaslun i Gymru’, yn gosod argymhellion i’r llywodraeth nesaf wedi etholiadau’r Cynulliad ar sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi yn y wlad.

Yn ôl yr elusen, nid yw graddfa cyflogau isel yng Nghymru wedi newid ers degawd ac mae cyflogau mewn nifer o awdurdodau lleol wedi aros llawer is na chyfartaledd y DU, tra bydd y bwlch rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn ‘tyfu a thyfu’.

Bron i 25% yn byw mewn tlodi

“Mae tâl isel a thlodi yn dal yn broblemau mawr yma yng Nghymru,” meddai Carys Mair Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru.

“Mae bron i chwarter aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi cymharol ac mae un person yn hanner y teuluoedd hynny yn ennill cyflog, sy’n golygu nad yw gwaith o reidrwydd yn codi pobl allan o dlodi. Yn bendant, nid yw swydd yng Nghymru heddiw yn cynnig ymgeledd pendant rhagor.”

Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau tlodi Cymru, mae’r elusen yn galw am greu rôl Dirprwy Weinidog o fewn adran gyllid y llywodraeth, fydd â chyfrifoldeb dros daclo tlodi a chodi safonau byw.

Sicrhau’r Cyflog Byw

Mae’r mudiad hefyd yn galw ar i’r llywodraeth nesaf sicrhau bod pob gweithwyr yng Nghymru yn derbyn y Cyflog Byw o £8.25 yr awr.

Ar hyn o bryd mae un o bob pedwar gweithiwr yng Nghymru, y mwyafrif ohonynt yn ferched, yn ennill llai na hyn.

Rôl Cymru yn y byd

Mae dogfen newydd Oxfam Cymru hefyd yn amlygu rôl Cymru yn y byd, a sut mae modd iddi fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymateb i argyfwng y ffoaduriaid.

“Mae’n hanfodol bod Cymru yn chwarae ei rhan ac yn helpu pobl dlotaf y byd hefyd,” meddai Carys Mair Thomas.

Ac mae hyn yn golygu ‘estyn croeso i’n cyfran deg o ffoaduriaid a lleihau ein hallyriadau carbon.

“Mae cynhesu byd eang yn gyfrifol am ddinistr llwyr yn rhai o gymunedau tlotaf ein planed, ac mae angen i ni fod yn ymwybodol o’n cyfraniad ni tuag at y newid hinsawdd dinistriol yma,”

Bydd ‘Glaslun i Gymru’ Oxfam Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol yn Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, heno am 6.15pm.