Barack Obama
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi rhybuddio Americanwyr na ddylen nhw adael i fraw a rhaniadau ar drothwy etholiad beryglu cynnydd economaidd a diogelwch y wlad.

Gwnaeth Obama ei sylwadau yn ei araith ar Gyflwr yr Undeb wrth i’w gyfnod fel Arlywydd ddechrau dirwyn i ben.

Dywedodd fod yr “holl drafod ar ddirywiad economaidd America’n aer poeth”, ac felly hefyd “yr holl rethreg glywch chi am ein gelynion yn mynd yn gryfach ac America’n mynd yn wannach”.

Ychwanegodd mai’r Unol Daleithiau yw’r “genedl gryfaf ar y Ddaear”.

Bwriad yr araith ar ddiwedd wyth mlynedd wrth y llyw oedd cyflwyno’i waddol, a’i gefnogaeth i’r ymgeiswyr Democrataidd sydd yn y ras i’w olynu.

Democratiaid

Galwodd ar drigolion yr Unol Daleithiau i ethol ymgeisydd Democrataidd a allai adeiladu ar ei waith dros yr wyth mlynedd diwethaf, ond fe gyfaddefodd fod Americanwyr yn teimlo fel pe baen nhw wedi cael eu cau allan o economi sy’n newid, ac yn teimlo fel pe bai’r perygl o du brawychwyr yn un sylweddol.

Er iddo gyflwyno’i weledigaeth ar gyfer y cyfnod ar ôl i’w deyrnasiad ddod i ben, doedd dim sôn yn araith Obama am bolisïau penodol sydd fel arfer mor nodweddiadol o areithiau o’r fath.

Ond fe heriodd y Gweriniaethwyr sydd wedi bod yn feirniadol ohono ar faterion yr economi a diogelwch cenedlaethol.

Rhybuddiodd am berygl “lleisiau sy’n ein hannog ni i ddychwelyd i lwythau” neu drin pobol yn wahanol os nad ydyn nhw’n “edrych fel ni neu’n gweddïo fel ni neu’n pleidleisio yn y modd yr ydyn ni neu’n rhannu’r un cefndir”.

Ymateb y Gweriniaethwyr

Wrth ymateb yn swyddogol i’r araith, dywedodd llywodraethwr De Carolina, Nikki Haley na ddylai Americanwyr “ddilyn galwad seiren y lleisiau mwyaf blin”.

Ar wefan Twitter, dywedodd y Gweriniaethwr Donald Trump fod araith Obama yn “ddiflas iawn”.

Mae’r Gweriniaethwyr eisoes wedi cyhuddo Obama o danbrisio grym y Wladwriaeth Islamaidd, gan beryglu diogelwch Americanwyr o ganlyniad.

Wrth gyfeirio at fan gecru rhwng y Democratiaid a Gweriniaethwyr, dywedodd Obama fod “drwgdybio ymhlith y pleidiau wedi gwaethygu, nid gwella”.

Ategodd Obama ei ddymuniad i weld y pleidiau’n cydweithio ar faterion megis diwygio cyfiawnder troseddol, gan alw am ragor o weithredu i ddatrys problemau drylliau’r Unol Daleithiau.