Gall bobol sydd â chyflwr ar eu llygaid sy’n arwain at golli eu golwg yn gyflym, gael triniaeth yn agosach i’w cartrefi mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau i drin pobol sydd â’r cyflwr Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn symud o’r ysbytai mewn pedwar prosiect peilot yng Ngwent, Cwm Taf, y Gorllewin a Phowys.

Mae’r prosiect, sydd werth £400,000, yn golygu mai gwasanaethau dan ofal meddygon mewn adrannau cleifion allanol a theatrau llawdriniaethau fydd nawr yn gyfrifol am drin cyflyrau llygaid o’r math hwn, tra bydd yr un gwasanaethau mewn cymunedau lleol yn cael eu darparu gan optometryddion a nyrsys dan oruchwyliaeth meddyg llygaid.

Bwriad y cynllun yw ceisio lleihau amseroedd aros i gleifion a rhoi mwy o amser i feddygon llygaid mewn ysbytai i drin cleifion sydd â’r cyflyrau mwyaf cymhleth.

Gwella sgiliau staff yn y maes

Mae Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru eisoes wedi cymeradwyo pecyn ariannu gwerth £105,000 i wella sgiliau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn y maes i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

“Dw i’n cyhoeddi buddsoddiad a fydd yn arwain, dros amser, at symud nifer fawr o wasanaethau i ffwrdd o’r ysbytai i mewn i gymunedau lleol gan eu gwneud yn fwy cyfleus i bobl gael mynediad atynt ac yn fwy cymwys i ddarparu’r gofal cywir,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn ein staff yn helpu  i ehangu sgiliau optometryddion a gweithwyr proffesiynol gofal llygad eraill, gan sicrhau  bod ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaethau hyn.

“Mae hyn yn pwysleisio ein hymrwymiad i ddatblygu ein staff er mwyn iddynt ddarparu gwasanaethau gofal a thriniaeth o ansawdd uchel.”

Symud gofal sylfaenol i’r gymuned

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gronfa gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru sydd werth £40 miliwn.

Nod y gronfa yw diwygio gwasanaethau gofal sylfaenol Cymru i sicrhau bod y rhan fwyaf o ofal y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n cael ei ddarparu yn y gymuned, yn fwy agos at gartrefi pobl.