Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei chynlluniau i wella economi Cymru heddiw fel rhan o’i gweledigaeth ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Yn ôl llefarydd y blaid dros yr economi, Rhun ap Iorwerth, nod Plaid Cymru yw cau bwlch economi Cymru ‘o fewn cenhedlaeth’.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn annerch cymuned fusnes Cymru heddiw, gan lansio cynlluniau’r blaid ar yr economi.

Cyhuddo’r blaid Lafur o ‘fethu’

Wrth siarad cyn ei araith, cyhuddodd Llywodraeth Lafur bresennol Cymru, o fethu ag amddiffyn gweithwyr Cymru a gadael i’r economi ddirywio.

Dywedodd hefyd fod gan Gymru y Gwerth Ychwanegol Gros isaf o unrhyw wlad ym Mhrydain a bod cyflog wythnosol y wlad, sy’n £537 ar gyfartaledd, bron i £100 yn llai na gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae diweithdra yng Nghymru hefyd yn uwch ar gyfartaledd na gweddill gwledydd Prydain a bydd ei araith yn canolbwyntio ar y ffactorau hyn, gan ddweud y bydd Plaid Cymru yn ‘cau’r bylchau’.

“Bu Cymru yn rym economaidd o’r radd flaenaf yn y byd cyn hyn, ond dros y degawdau, dirywio wnaeth ein heconomi. Amcan Plaid Cymru yn y tymor hir yw gwella economi Cymru i’r un lefel o fewn cenhedlaeth. Does dim rhaid i ni fod yn berthynas dlawd y DU,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Heddiw, byddaf yn amlinellu  cynllun economaidd tymor-hir Plaid Cymru i gau’r bwlch ffyniant sy’n bodoli rhwng Cymru a gweddill y DG, ac yn codi cyflogau Cymreig.”