Carwyn Jones
Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru fynd gerbron un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw i ateb cwestiynau ynghylch toriadau’r Llywodraeth ar y Gymraeg.
Bydd Carwyn Jones yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ateb cwestiynau dros yr arian mae ei lywodraeth yn ei roi i gefnogi’r iaith.
Yn y Gyllideb ddrafft a gafodd ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, mae’n dangos y bydd y Gymraeg yn derbyn tua £2m yn llai o arian ar gyfer hybu’r iaith yn y gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, yn 2016/17.
Golyga hyn y bydd yr arian i hyrwyddo’r iaith yn gostwng o £27.2m yn 2015/16 i £25.6m yn 2016/17.
Amddiffyn y toriadau
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, mae’r Prif Weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod blaenoriaethu gwariant ar y “rhai sydd ei angen fwyaf” yn dilyn toriadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae Carwyn Jones yn pwysleisio hefyd bod Llywodraeth Cymru “yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau dyfodol yr iaith” ac y bydd yn “parhau i weithio’n agos gyda sefydliadau partner er mwyn gosod sylfaen gadarn i’r iaith yn y dyfodol”.
Mae’r toriadau wedi cael eu beirniadu’n chwyrn, gyda sawl mudiad iaith yn lladd ar y llywodraeth am dorri cymaint ar gyllideb y Gymraeg.
Dywedodd y mudiad Dyfodol i’r Iaith fod y toriadau’n ‘gywilydd’, tra bod Dathlu’r Gymraeg yn dweud y byddan nhw’n “cael effaith niweidiol dros ben ar y gwaith sy’n cael ei wneud i hybu’r Gymraeg ac yn rhoi nifer mawr o swyddi mewn perygl”.
Torri prif strategaeth iaith y Llywodraeth
Mae’r toriadau yn golygu y bydd prif strategaeth Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, Bwrw Mlaen, yn gorfod gweithredu ar 25.6% yn llai o arian yn ystod 2016/17.
Mae pryderon eraill yn sgil y toriadau, gan gynnwys toriadau i gyllidebau y Cyngor Llyfrau, sy’n wynebu toriad o 10.6%, ac i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n wynebu ansicrwydd ynghylch ei ddyfodol ariannol.