Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s wedi cyhoeddi perfformiad gwell na’r disgwyl dros gyfnod y Nadolig er bod gwerthiant yn is.
Fe fu gostyngiad o 0.4% mewn gwerthiant, ag eithrio tanwydd, yn y 15 wythnos hyd at 9 Ionawr mewn marchnad “gystadleuol iawn.”
Ond nid oedd unrhyw fanylion pellach ynglŷn â’u cynlluniau i brynu perchennog Argos, Home Retail Group, am £1 biliwn. Datgelwyd wythnos ddiwethaf bod Sainsbury’s wedi mynegi diddordeb yn y grŵp ym mis Tachwedd, ond eu bod wedi cael eu gwrthod.