Mae gwaith ymchwil newydd yn cael ei lansio’r wythnos hon, sy’n galw ar aelodau’r cyhoedd i wirfoddoli i archwilio bywyd môr arfordir gwledydd Prydain.
Mae Prifysgol Bangor yn rhan o’r prosiect, Capturing Our Coast, ar y cyd â phrifysgolion eraill y DU, ac mae hefyd yn cynnwys sawl cymdeithas forol arbenigol a sefydliadau mawr fel y Natural History Museum.
Bwriad y prosiect, sydd y mwyaf o’i fath erioed ac sydd wedi cael £1.7m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, yw cynyddu ein dealltwriaeth o amrywiaeth bywyd y môr a gweld sut mae newid hinsawdd yn effeithio arno.
Y gobaith yw recriwtio a hyfforddi dros 3,000 o wirfoddolwyr i helpu i adeiladu darlun mwy cywir o fywyd dan y môr, gan hefyd hysbysu polisi a strategaethau cadwraeth at y dyfodol.
‘Llenwi bylchau mewn gwybodaeth’
“Bydd y data y byddwn yn ei gasglu yn llenwi bylchau allweddol mewn gwybodaeth, megis dosbarthiad daearyddol rhywogaethau, symudiad rhywogaethau dŵr cynnes ac achosion o rywogaethau anfrodorol yn dod i mewn,” meddai Dr Heather Sugden, Cyd Brif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Newcastle, sy’n arwain ar y prosiect.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chefnogaeth gan arbenigwyr ym maes gwyddor môr er mwyn cynnal eu diddordeb a sicrhau data o ansawdd uchel.
Bydd y gwaith ar gael hefyd i rai na all fynd allan i’r arfordir, drwy sefydlu opsiynau gwyddonol ar y we.
“Mae hwn yn gyfle ardderchog i’r cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ymarferol ar draethau creigiog a darganfod mwy’r un pryd am weithgareddau ymchwil gwyddonwyr môr ym Mhrydain,” meddai’r Athro Stuart Jenkins, prif ymchwilydd Prifysgol Bangor.
“Ein nod yw adeiladu perthynas â’r gwirfoddolwyr a fydd, gobeithio, yn fuddiol i bawb ohonom. Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr yn gwneud arsylwadau cyson ar draethau creigiog yng Nghymru a, thrwy CoCoast, o amgylch Prydain i gyd, yn gyfrwng ymchwil a all fod yn arbennig o rymus.”
Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith, ewch i wefan y prosiect.