Mae Prif Weinidog Irac wedi rhoi addewid i barhau gyda’r frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS), ddiwrnod ar ôl i’r grŵp gynnal ymosodiad ar ganolfan siopa gan ladd 18 o bobl.

Wrth ymweld â’r ganolfan siopa yn nwyrain Baghdad Newydd heddiw, dywedodd Haider al-Abadi bod yr ymosodiad yn ymgais gan y milwriaethwyr i ddial ar ôl iddyn nhw golli rheolaeth o ddinas allweddol Ramadi.

Dywedodd Haider al-Abadi y byddai llywodraeth Irac yn gwneud popeth yn ei gallu ei orfodi IS o’r wlad.

Roedd dynion arfog wedi ymosod ar y ganolfan siopa ddydd Llun ar ôl ffrwydro bom car ac ar ôl i hunan-fomiwr ffrwydro bom wrth y fynedfa.

Roedd lluoedd Irac wedi amgylchynu’r adeilad gan ladd dau ddyn arfog ac arestio pedwar o rai eraill.