Mae miloedd o feddygon iau yn mynd ar streic heddiw er gwaethaf ymdrech funud-olaf gan David Cameron i’w hatal rhag gweithredu.

Ar draws Lloegr, fe fydd tua 4,000 o lawdriniaethau yn cael eu canslo, gyda miloedd o apwyntiadau eraill hefyd yn cael eu gohirio.

Mae disgwyl i feddygon iau ddarparu gofal brys yn unig am 24 awr o 8 y bore ma.

Mae cleifion wedi cael gwybod y bydd ysbytai dan bwysau ac wedi gofyn iddyn nhw  osgoi Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys oni bai ei fod yn fater brys gwirioneddol.

Yn hytrach, maen nhw’n cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaethau eraill y GIG, gan gynnwys meddygon teulu, llinell ffon 111 a fferyllfeydd.

Mae disgwyl i’r streic amharu hefyd ar gleifion o Gymru sy’n teithio dros y ffin am driniaeth.

Mae tua 100 o linellau piced wedi cael eu trefnu, gyda’r rhan fwyaf yn Llundain.

Ddoe, roedd y Prif Weinidog wedi apelio ar feddygon i roi’r gorau i’r streic a’u hannog i ddychwelyd i’r bwrdd trafod.

“Nid yw’r streic yma’n angenrheidiol. Fe fydd yn niweidiol,” meddai.

Roedd trafodaethau i geisio datrys yr anghydfod ynglŷn â chytundeb newydd wedi methu ddydd Gwener, er y bydd trafodaethau eraill yn parhau.

Fe fydd streic 48 awr arall yn cael ei gynnal am 8yb ar 26 Ionawr gyda gofal brys yn unig yn cael ei gynnig gan feddygon iau.

Mae’r anghydfod yn ymwneud a chodiad cyflog o 11% sydd wedi cael ei gynnig gan y Llywodraeth, ond fe fydd gostyngiad yn nifer yr oriau dros y penwythnos y gall meddygon iau hawlio cyflog ychwanegol am weithio oriau anghymdeithasol.