Ffiaduriaid yn gadael Syria
Fe fydd tref yn Syria sydd wedi bod o dan warchae’r Llywodraeth yn derbyn cymorth rhyngwladol heddiw, ymysg adroddiadau fod pobl yn llwgu i farwolaeth yno.
Fe gadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig y bore yma fod cymorth dyngarol ar ei ffordd bellach i dref Madaya yn Syria. Mae’r dref ar y ffin â Libanus a chredir bod tua 40,000 o bobl yno.
Dywedodd swyddogion y Cenhedloedd Unedig bod y sefyllfa yn “arswydus” a’u bod wedi bod yn ceisio cael mynediad i’r dref ers tro. Yn ôl adroddiadau, mae pobl yn llwgu i farwolaeth ac yn troi at fwyta glaswellt i oroesi, neu’n cael eu lladd wrth geisio gadael.
Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd wedi mynegi pryder am “sefyllfa frawychus” dau bentref Shiaidd gerllaw, gan ddweud fod mwy na 250,000 o bobl wedi’u lladd yn ystod 5 mlynedd o ymladd.
Mae codi gwarchaeodd yn nodwedd o ryfel cartref Syria, ond fe ddaeth tynged tref Madaya i’r amlwg yn rhannol oherwydd lluniau a ryddhawyd o’r trigolion yn dioddef o ddiffyg maeth.