Carwyn Jones a Nigel Farage
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn mynd benben ag arweinydd UKIP heno yng Nghaerdydd mewn dadl ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y gorffennol, mae Carwyn Jones wedi honni y byddai gadael yr UE yn “drychinebus”, gan ddweud fod 200,000 o swyddi yn dibynnu ar fasnach gyda gwledydd yr UE a bod economi Cymru’n dibynnu’n fawr arni.

Er hyn, mae Nigel Farage yn honni y byddai aros yn Ewrop yn bygwth miloedd o swyddi yn y diwydiant dur, fel Tata yn ne Cymru.

Mae’r ddadl heno wedi’i threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.

Mae  disgwyl refferendwm ar ddyfodol Prydain fel rhan o’r UE rhywbryd cyn 2017. Fe awgrymodd y Prif Weinidog, David Cameron, ddoe y gellid disgwyl refferendwm cyn yr haf pe byddai cytundeb yn cael ei gyrraedd gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol wedi dweud y dylai gweinidogion o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael cyfrannu eu barn at safbwynt Llywodraeth Prydain yn ystod trafodaethau Ewropeaidd, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion.

‘Codi amheuon’

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi beirniadu’r ddadl heno, gan ddweud fod Carwyn Jones yn ei defnyddio fel ffordd i “dynnu sylw oddi ar ei fethiannau.”

“Llai na phedwar mis tan yr etholiad pwysicaf yng Nghymru mewn cenhedlaeth, mae ei benderfyniad [Carwyn Jones] i fynd benben â Nigel Farage ar fater nad sydd wedi’i ddatganoli, yn codi amheuon.”

“Mae’r ddau yn mynd i gynnal dadl ar fater na fydd yn cael ei benderfynu gan etholiad Cymru – ac nad sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, na’r Cynulliad.

“Gyda’r GIG mewn cythrwfl oherwydd cyllid, cyrhaeddiad addysgol yn llusgo tu ôl i genhedloedd eraill, a Chymru mewn peryg o gael ei gadael ar ei hôl wrth i economi’r DU gamu ymlaen, byddai sinig yn awgrymu fod y Prif Weinidog am dynnu sylw oddi ar y materion craidd hyn.”

Fe ychwanegodd Andrew RT Davies fod honiadau’r Prif Weinidog y gallai amaethyddiaeth “ddod i ben” yn “symptomau o Lywodraeth flinedig sydd wedi rhedeg allan o syniadau” oherwydd ar yr un pryd mae’n “niweidio cyllidebau ffermio.”

“Rydym yn gwybod fod pobl – a busnesau – ar draws Cymru wedi’u rhannu ar fater aelodaeth o’r UE; ac maent yn haeddu cyfle i wneud dewis gwybodus.

“Fodd bynnag, gydag etholiadau Cynulliad Cymru ychydig wythnosau i ffwrdd, a dyfodol ein heconomi, y GIG ac ysgolion yn y fantol, mae awydd y Prif Weinidog i groesawu’r cyfle i dynnu sylw oddi ar yr union faterion hynny yn siarad cyfrolau.”

Bydd y ddadl yn dechrau am 7yh nos Lun, 11 Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm. Bydd i’w gweld yn fyw arlein ar wefan ITV Wales a Wales Online.