Mae Somalia wedi torri ei chysylltiadau diplomyddol gydag Iran yn sgil tensiynau rhwng y weriniaeth Islamaidd a Saudi Arabia.

Roedd datganiad gan weinidog tramor Somalia heddiw wedi cyhuddo Iran o geisio ansefydlogi’r wlad.

Dywedodd bod y llysgennad i Iran wedi cael ei alw’n ôl ac fe fydd diplomyddion Iran yn gadael Somalia o fewn 72 awr.

Mae Somalia wedi ymuno a Saudi Arabia, Sudan a Bahrain sydd wedi torri eu cysylltiadau gydag Iran yn sgil yr argyfwng. Mae gwledydd eraill wedi israddio eu cysylltiadau a’r wlad.

Roedd Saudi Arabia wedi torri cysylltiad gydag Iran ddydd Sul ar ôl i griw o brotestwyr ymosod ar ddau o’u safleoedd diplomyddol yn Iran.

Daeth yr ymosodiadau ar ôl i Saudi Arabia ddienyddio’r clerigwr Shiaidd blaenllaw Nimr al-Nimr dros y penwythnos.