Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw am eglurder ynglŷn â bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli pwerau ynni pellach i Gymru a diffyg y Grid Cenedlaethol ar hyn o bryd i ddarparu ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni newydd.
Mae’r AS dros Feirionnydd, Liz Saville Roberts yn dadlau y dylai capasiti y Grid Cenedlaethol gael ei uwchraddio ar frys, fel nad yw ymdrechion i gynyddu cynhyrchiant ynni yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy, yn cael eu hatal rhag cael eu rhoi ar waith.
O dan Fesur Drafft Cymru, byddai cynlluniau ynni hyd at 350MW yn cael eu datganoli i’r Cynulliad, ond mae Liz Saville Roberts yn credu nad oes unrhyw reolaeth dros gapasiti lle mae trosglwyddo yn y cwestiwn.
Galw am ddatganoli pwerau
Wrth siarad cyn cwestiynau’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Mae Plaid Cymru wedi galw dro ar ôl tro i ddatganoli pwerau dros brosiectau ynni mawr i Lywodraeth Cymru, gydag awydd arbennig i gynyddu capasiti prosiectau adnewyddadwy megis cynlluniau llanw.
“Mae rhwydwaith hynafol y Grid Cenedlaethol yn achosi problemau trosglwyddo ar gyfer prosiectau ynni newydd.”
Mae’n galw am gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol i gyflawni’r nod, fel yr eglurodd:
“O ystyried bwriad Llywodraeth Prydain i ddatganoli pwerau cydsynio ynni pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’n hanfodol bwysig bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti y Grid yn cael ei uwchraddio ac nad yw ymdrechion i ddatblygu prosiectau cynhyrchu ynni newydd yn cael eu dal yn ôl gan gymhlethdodau capasiti’r Grid Cenedlaethol yng Nghymru.”
Mae Liz Saville Roberts yn honni fod prosiectau ynni yn cael eu hatal o ganlyniad, “Mae grwpiau ynni cymunedol sy’n awyddus i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn cael eu hatal rhag gwneud hynny gan ffioedd gormodol maent yn gorfod eu talu i uwchraddio’r grid.”
‘Angen seilwaith’
Ychwanegodd, “Mae angen ymdrech ar y cyd gan ddarparwyr ynni a’r Llywodraeth fel nad yw cynlluniau cynhyrchu arfaethedig yn methu wrth y rhwystr cyntaf.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynllun ynni sy’n wyrdd ac sy’n gallu pweru atgyfodiad economi Cymru gan fodloni ein rhwymedigaethau byd-eang wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd, ond i wneud hynny mae arnom angen y seilwaith a’r capasiti ynni sydd ar hyn o bryd yn ddiffygiol.”
‘Galw am roi’r un pwerau a’r Alban i Gymru’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod fod Cymru angen rhwydwaith a grid trydan sy’n caniatáu inni gyrraedd ein hamcanion ynni carbon isel.
“Rydym hefyd yn gwybod am y cyfyngiadau presennol i’r isadeiledd, wrth uwchraddio ac wrth ddatblygu, ac mae hyn yn cael ei rwystro, gyda datblygiadau yn y dyfodol yn gorfod bod yn fwy clyfar er mwyn caniatáu fod y galw a’r angen yr un fath yn lleol.
“Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Lywodraeth Prydain i roi’r un pwerau a’r Alban i Gymru dros ynni ond maen nhw wedi gwrthod hynny. Fe fyddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Prydain ar faterion fel costau ynni, gwelliannau i’r grid, marchnad reoliadol, a datblygiadau egni adnewyddol.”