Gallai bron i 700,000 yn fwy o bobol ddioddef o ganser yn yr 20 mlynedd nesaf oherwydd eu bod yn ordew, meddai Cancer Research UK.

Dywedodd yr elusen, sy’n galw am gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, fod angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â lefelau gordewdra “brawychus” Prydain.

Mae 10 math o ganser wedi’u cysylltu â gordewdra, a gall hefyd arwain at glefyd y siwgr Math 2, afiechyd ar y galon, strôc ac amrywiaeth o broblemau iechyd eraill.

Mewn adroddiad newydd, mae Cancer Research UK a Fforwm Iechyd y Deyrnas Unedig yn rhybuddio y gall bron i dri o bob pedwar oedolyn fod yn ordew erbyn 2035.

Mae hefyd yn rhagweld y bydd y cynnydd mewn gordewdra yn costio £2.5 biliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd bob blwyddyn erbyn 2035.

Ond byddai cwymp o 1% yn unig o bobol yn colli pwysau i fod yn bwysau iach bob blwyddyn yn gallu atal dros 64,000 o achosion o ganser dros yr 20 mlynedd nesaf ac arbed £300 miliwn i’r Gwasanaeth Iechyd yn 2035.

Treth ar ddiodydd siwgr

Mae Cancer Research UK yn galw am wahardd hysbysebion teledu cyn 9yh sy’n hysbysebu bwyd sothach ynghyd â threth o 20c bob litr ar ddiodydd llawn siwgr.

Y cogydd enwog, Jamie Oliver, ddechreuodd y galw am dreth ar ddiodydd llawn siwgr, gan ddweud bod “addysg bwyd yn allweddol.”

“Os bydd llywodraethau yn cymryd iechyd plant o ddifrif a defnyddio addysg i’w hysbrydoli, gallwn gael effaith enfawr ar eu hiechyd a’u lles,” meddai.

“Rydym yn magu cenhedlaeth o blant mewn cymdeithas lle mae bwyd sothach yn rhad, yn cael ei hysbysebu’n eang, ac sy’n llawn siwgr, felly mae’n anodd eu dysgu sut i wneud dewisiadau iach.”

Mecsico yn arwain y ffordd

Mae’r adroddiad yn dilyn gwaith ymchwil sy’n dangos bod treth ar ddiodydd llawn siwgr ym Mecsico wedi arwain at gwymp o 12% yn eu gwerthiant a chynnydd o 4% mewn pryniant diodydd sydd heb dreth, flwyddyn ar ôl iddi gael ei chyflwyno.

O 1 Ionawr, 2014 ymlaen, fe gyflwynodd Mecsico dreth doll o 1 peso fesul litr ar ddiodydd â siwgr ynddyn nhw.

Roedd ymchwilwyr yn America a Mecsico wedi archwilio data o dros 6,200 o gartrefi yn y wlad mewn 53 o ddinasoedd mawr, gan ganfod bod cynnydd yn nifer y diodydd heb siwgr a gafodd eu prynu.

Mae disgwyl i’r llywodraeth gyhoeddi ei strategaeth ar ordewdra yn y mis nesaf, ond hyd yn hyn, mae wedi gwrthod y galwadau i gael treth ar ddiodydd a bwydydd llawn siwgr.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn erbyn y cynllun, gyda llefarydd ar ran Downing Street yn dweud ym mis Hydref ei fod yn credu bod “ffyrdd mwy effeithiol o fynd i’r afael â gordewdra.”