Swyddog yr heddlu ym Mharis
Mae swyddogion yn Ffrainc yn trin ymosodiad ar orsaf yr heddlu ym Mharis fel digwyddiad  “brawychol” posib.

Cafodd y dyn, oedd a chyllell yn ei feddiant, ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Daw’r ymosodiad wrth i Ffrainc nodi blwyddyn union ers i eithafwyr Islamaidd ymosod ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo gan ladd 12 o bobl, gan gynnwys plismon.

Dywedodd swyddog yr heddlu eu bod nhw’n trin y digwyddiad mwy fel “achos o frawychiaeth” na gweithred droseddol arferol.

Fe gadarnhaodd fod y dyn yn gwisgo gwregys  ffrwydron “ffug”.

Mae ysgolion a strydoedd gerllaw wedi cael eu cau a phobl yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi.

Y bore ma fe fu Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, yn annerch aelodau o luoedd diogelwch y wlad ynglyn a’r frwydr yn erbyn brawychiaeth.