Mae twll mawr neu sinkhole, sy’n 1.5 troedfedd o led a 10 troedfedd o hyd wedi ymddangos ar heol yng Nghastell-nedd bore ma.

Mae Ffordd Cimla yn y dref ynghau ar hyn o bryd wrth i Heddlu De Cymru a gweithwyr Cyngor Castell-nedd Port Talbot asesu’r difrod.

Cafodd yr heddlu adroddiadau am tua 8:50 bore dydd Iau bod  y twll wedi ymddangos ar y B4287, ar waelod Ffordd Cimla ac mae’r awdurdodau yn ceisio darganfod  beth achosodd y twll.