Roedd gwerthiant ceir wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed, yn ôl ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi.
Cyhoeddodd Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT) fod dros 2.63 miliwn o geir wedi cael eu cofrestru ym Mhrydain yn 2015, sy’n gynnydd o 6.3% ers 2014.
Llwyddodd ffigurau’r llynedd i dorri’r record flaenorol yn 2003, ble roedd cyfanswm y ceir a gofrestrwyd yn 2.58 miliwn.
Roedd gwerthiant ceir ar gyfer mis Rhagfyr 2015 hefyd wedi gweld cynnydd o 8.4% ers y flwyddyn flaenorol, ble gwerthwyd 180,077 o geir.
Fe ddywedodd Prif Weithredwr y SMMT, Mike Hawes fod hyder prynwyr, cynnydd mewn cyflogau a chynlluniau ariannol llog isel wedi annog modurwyr i brynu ceir newydd.
Dywedodd Mike Hawes fod “pob rheswm i ddisgwyl gweld y farchnad yn dal ei thir yn gadarn yn 2016”.
Volkswagen wedi gweld cwymp
Tra bod gwerthiant ceir wedi cynyddu yn sylweddol hyd at ddiwedd y flwyddyn, roedd cwmni Volkswagen wedi gweld gwerthiant yn syrthio 0.4% ym mis Rhagfyr o’i gymharu â’r un adeg y llynedd yn dilyn y sgandal profion allyriadau. Fe cwymp o 20% yn nifer y ceir gafodd eu cofrestru ym mis Tachwedd gyda’r cwmni o’r Almaen.
Er hynny, gwelwyd cynnydd cyffredinol o 4.2% mewn gwerthiant ceir Volkswagen yn 2015 o’i gymharu â 2014.