Phrifysgol Abertawe
Bydd £14 miliwn yn mynd at ddatblygu’r sector peirianneg yng Nghymru mewn prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Bwriad y cynllun yw darparu hyfforddiant mewn sgiliau technegol arbenigol a sgiliau rheoli sy’n “allweddol” i’r sector peirianneg uwch.

149 o bobol fydd yn cymryd rhan yn y cynllun sy’n cael ei ddarparu gan Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe, a fydd yn cynnwys y cyfle i ennill ôl-radd fel Meistr Ymchwil a Doethuriaethau mewn Peirianneg.

Daw £8.6 miliwn ar gyfer prosiect o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae gweddill y cynllun yn cael ei ariannu gan Brifysgol Abertawe a’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol.

Mae busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun fel Tata Steel, BASF, y Bathdy Brenhinol a Weartech International, a fydd yn llunio prosiectau ymchwil, hefyd yn ariannu rhan o’r prosiect.

Bydd y rhaglen yn defnyddio cyfleuster delweddu gwyddonol newydd y Brifysgol, sy’n werth £9 miliwn, ac sy’n unigryw yn Ewrop.

‘Sicrhau arweinwyr rhagorol’ yn y maes

“Mae peirianneg uwch yn sector pwysig iawn yn ein heconomi, felly mae’n newyddion ardderchog bod dros £8m o gronfeydd yr UE yn cael ei fuddsoddi i sicrhau bod gan Gymru arweinwyr rhagorol yn y diwydiant yn awr ac yn y dyfodol,” meddai’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt mewn digwyddiad lansio ar Gampws y Bae newydd Prifysgol Abertawe.

“Roedd buddsoddiad yr UE hefyd yn hanfodol i ddatblygu Campws y Bae newydd, ac rwy’n falch iawn y bydd y bobl sy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn yn manteisio ar y cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianyddol.”

Agorodd Campws y Bae, gwerth £450m, ei ddrysau i 5,000 o fyfyrwyr ym mis Medi ar ôl sicrhau £100m o fuddsoddiad yr UE, a’i nod yw creu adfywiad economaidd gwerth tua £3 biliwn dros y deng mlynedd nesaf yn ardal Bae Abertawe.

Dyblu’r nifer sy’n astudio Doethuriaeth Peirianneg

Dywedodd yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Mae cyhoeddiad yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu heddiw yn bwysig iawn i Brifysgol Abertawe, Dinas-ranbarth Bae Abertawe a’r tu hwnt.

“Mae sicrhau’r cyllid hwn gan yr UE yn ein galluogi i gynnig cyfleoedd ymchwil doethuriaeth a meistr i raddedigion talentog ac mae’n creu cysylltiadau cadarn ac ystyrlon â’n partneriaid yn y sector peirianneg.

“O ganlyniad i’r Academi, bydd y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio gradd Doethuriaeth mewn Peirianneg bob blwyddyn yn mwy na dyblu. Bydd hefyd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr astudio am ddoethuriaeth mewn partneriaeth â chwmni peirianneg sydd am ganfod, arloesi a datblygu talent.

“Rwy’n hyderus y bydd y cynllun arloesol ac uchelgeisiol hwn yn datblygu unigolion blaenllaw y dyfodol sydd eu hangen arnom ni yn y wlad hon. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau rhagor o swyddi a chreu cyfoeth trwy gymhwyso gwyddoniaeth a pheirianneg.”